SEARCH
SIGN UP FOR UPDATES
Gwerthwyr Gorau
GWIN DYLANWAD WINE
Teithio’r byd yn edrych am win yw hoff beth Dylan. Trwy ddewis yn ofalus gan gynhyrchwyr sydd â chariad at y tir gallwn gynnig gwerth am arian da i chi. Ein nod yw cael gwinoedd diddorol o safon trwy brynu gan gynhyrchwyr bach o Ewrop ac atodi at rain gan bartneriaid eraill. Holwch ein staff deallus, maent yn hapus i drafod un rhywbryd.
Gwelir Dylan yn rheolaidd ar raglen teledu S4C ‘Prynhawn Da’ yn ogystal â siarad ar y radio. Maent wedi ysgrifennu llyfr ‘Bwyd a Gwin’ a’i gyfieithu i Saesneg ‘Rarebit & Rioja’. Emma a Terri yw’r ddau aelod o staff llawn amser sy’n ddeallus iawn am win. Clywir yn aml sôn am eu natur hwyliog a gwenau cyfeillgar. Llwyddodd y ddwy i ennill eu Wset Lefel 2 gydag anrhydedd a thrwy ymweld â gwinllannoedd yn Ewrop a ffeiriau mawr gwin gyda Dylan mae’r ddwy’n ategu at eu gwybodaeth o win.