SEARCH

CLOSE

SIGN UP FOR UPDATES

    *** CLUDIANT AM DDIM DROS £160 *** CLUDIANT LLEOL AM DDIM DROS £50
    01341422870
    Ar agor Llun i Iau 10yb - 5yh, Gwener i Sad 10yb - 8yh

    Ble ‘da ni?

    Harddwch naturiol ardal Dolgellau yw’r atyniad mwyaf gyda phedwar mynydd yn ein cylchu (Cader Idris, Aran Fawddwy, Rhobell a Diffwys) a’r Fawddach yn agor fyny i’r môr. Hefyd mae’r teimlad o gymuned glos, yr iaith a diwylliant Gymraeg yn golygu na does unrhyw le arall yn y byd rydym yn fodlon byw! Ers 1988 rydym wedi rhedeg busnes yn Nolgellau.

    Mae’r darlun yma wedi ei wneud gan ferch o’r enw   Abi Winter –  Gwaith_gaeaf ar Instagram

     

    Pwy ‘da ni?

    Dylan – Prif Brynwr Gwin!
    Hoffwn gael ceiniog pob tro mae rhywun yn dweud mor annisgwyl yw gweld siop win fel Dylanwad yma… Well, petai rywun yn cychwyn busnes gwin nid yw Dolgellau’n le amlwg yn Nolgellau i’w sefydlu oherwydd maint yr ardal ond mae’n gwreiddiau ni yma ac mae cyswllt clos gennym a’r gymuned, y lle a’r cynnyrch. Yn aml mae’n teithiau dramor i edrych am winoedd newydd yn arwain i lefydd tebyg: cymunedau bach amaethyddol fel teulu Llinos. Ffermwyr yw’r gwinwyr mewn gwirionedd, sy’n tyfu grawnwin ac nid chig oen!

     

    Llinos – Prif Flaswr Gwin!
    Dylanwadodd Mam a’i chariad at fwyd yn fawr arnom, ac mae’n hidlo lawr trwy genedlaethau ein teulu. Ffarmwr yw John fy mrawd gyda’r defaid yn pori ar dir yn rhedeg lawr i fôr Llwyngwril ble roedd ein rhieni a’n Nain a Thaid o’r ddwy ochr yn ffermio. Mae’n frawd arall, Tom, yn ffotograffydd: lluniau o’r dirwedd, pobl a’r bywyd gwyllt yr ardal yw’r hoff destun ganddo. Dewch i weld ei gardiau yn y siop (a’r lluniau o’r gymuned Gymreig yn Y Wladfa o adeg ei fywyd yn yr Ariannin!). Mae’r ddau yn bysgotwyr hefyd ac mor hoff o goginio cynnyrch o’r môr a’r cynnyrch o’r tir.

    CONTACT US
    Where are we?

    Find your way to Dolgellau’s lovely old square, look up at Mynydd Moel and we are just off the left of it – opposite the town bakery. Oh, and we still have a family butcher too!