SEARCH

CLOSE

SIGN UP FOR UPDATES

    *** CLUDIANT AM DDIM DROS £160 *** CLUDIANT LLEOL AM DDIM DROS £50
    01341422870
    Ar agor Llun i Iau 10yb - 5yh, Gwener i Sad 10yb - 6yh

    Cwsmeriaid Masnach

    Cymro o  Essex a merch fferm o Arthog, cynigiwn wasanaeth dibynadwy a chyngor deallus i chi a’ch busnes. Yn 2014, ar ôl 25 mlynedd o redeg busnes ein hunain yn ‘Dylanwad Da’ roedd lansiad busnes hollol Newydd, sef Gwin Dylanwad. Gyda’n wybodaeth o’r byd arlwyo gallwn eich helpu i:

    •              ddewis gwinoedd addas;

    •              argraffu eich rhestr win;

    •              hyfforddi staff;

    •              sicrhau fod y rhestr win yn gweddu i’r bwyd;

    Mae’n gwin ni’n cynnig gwerth da am arian gan gynhyrchwyr yr ydym yn ymddiried ynddynt.

    Yn ystod yr amseroedd digynsail yma does dim sefydlogrwydd o gadwyni cyflenwi o gwbl! Ein haddewid yw cefnogi’n cwsmeriaid masnach trwy gadw’n nod masnach o werth am arian, safon a dibynadwyedd. I alluogi hyn, rydym yn cadw llygaid barcud ar stoc a trwy adolygiad gwerthiant a gweithrediadau misol. O’r wybodaeth yma daeth penderfyniad i gael cronfa o stoc lawer uwch nac arfer yn ein warws. I gefnogi’n bellach rydym yn sicrhau fod eilyddion addas gennym i’r prif linellau.

    Dengys y canlynol i fod yn bwysig i gwsmeriaid trwy ymchwil diweddar:

    •              cynnyrch organig, fegan a biodynamig fel mae’r cyhoedd yn fwy ymwybodol o’r effaith ar ein byd. Rydym yn hapus i gael gair am gynaliadwyedd a gwinwyr yn gweithredu gyda’r lleiaf o ymyriad bosib.

    •              Diddordeb mawr a gwerthiant sylweddol o win Cymreig yn 2021;

    •              Gwydrau o safon yn rhan bwysig o brofiad cwsmer –  gwydr sy’n sgleinio ac yn dangos y gwin ar ei orau;

    •              Staff wedi’u hyfforddi’n dda i roi cyngor ar win;

    •              Disgrifiadau ar y rhestr gwin sy’n wir help i ddewis.